Mae gweld stwff yn dda iawn

-

Steffan Alun, y digrifwr o Abertawe, ar yr hyn sydd mor wych am gerdded

Yn ddiweddar, ro’n i’n styc yn fy nghartref fy hun am bron i ddwy flynedd. Wna’i ddim trafod pam.

Yn lle hynny, gadewch i ni siarad am gerdded. Am beth amser, roedd pawb yn fy ngwlad yn gyfyngedig i awr o ymarfer corff awyr agored y dydd, a gwelais ffrindiau a theulu di-ri yn cyffroi am y syniad o gerdded – rhai ohonynt am y tro cyntaf erioed.

Wel, rwyf wastad wedi gwybod bod cerdded yn wych. Tra bod eraill wedi darganfod yr amrywiaeth syfrdanol o deithiau cerdded yn eu hardaloedd lleol am y tro cyntaf, roedd gen i sawl hoff daith am dro o amgylch fy ninas Abertawe yn barod, a manteisiais yn llawn ar lwfans ymarfer corff dyddiol y llywodraeth i archwilio fy mhrif deithiau cerdded:

  • Ar Hyd yr Afon
  • Lan at y Llyn
  • Lawr i’r Traeth
  • Lan Heibio’r Llyn Arall
  • Lan y Bryn
  • Beth am Wneud y Ddau Lyn

Unwaith i mi ddychwelyd i’r gwaith (rwy’n ddigrifwr standyp), daeth y teithiau cerdded hyn yn bleser achlysurol yn hytrach na threfn ddyddiol. Ac eto, rydw i’n dal i gerdded cymaint ag erioed.

Dewch yn nes. Cymerwch sedd. Gadewch imi ddweud fy nghyfrinachau wrthych.

Pam mae cerdded yn wych

Mae’r rhyngrwyd eisoes yn llawn llythyrau cariad efengylaidd at gerdded. Erthyglau di-ri am yr hwyl a rhyddid cerdded, ar gael i’w darllen cyn gynted ag y byddwch wedi mynegi barn ar gwcis ac wedi aros i hysbyseb pum eiliad ddod i ben.

Y camgymeriad a wnânt yn aml yw cymryd mai’r hyn y mae’r awdur yn ei garu am gerdded yw’r hyn a fydd yn argyhoeddi’r darllenydd. Ond mae’n siŵr bod cerddwr profiadol wrth ei fodd yn heicio am oriau ar dir cyffrous, heriol – ac i’r rhai nad ydynt yn cerdded, mae hynny’n swnio’n ofnadwy.

Yn waeth byth, nid yw llawer o gerddwyr profiadol hyd yn oed yn sylweddoli pam eu bod nhw’n mwynhau cerdded cymaint.

Felly gadewch i ni drafod y peth. Y gwir resymau bod cerdded mor wych.

Mae gweld stwff yn dda iawn

Mae pobl wrth eu bodd yn gweld pethau. Effeithiau arbennig mewn ffilmiau, cathod, dieithriaid hardd, snwcer, enfys, pornograffi, Doctor Who, hwyaid – mae’n hwyl gweld rhywbeth, a meddwl, “Rwyf wedi gweld y peth hwnnw â’m llygaid.”

Mae cymaint o hyn yn isymwybodol. Ond rydyn ni wedi ein dylunio i fwynhau gweld pethau. Rydyn ni’n teimlo’n hapusach pan rydyn ni’n gweld coed neu olau’r haul. Yn y bôn, os ewch chi allan am dro, bydd eich diwrnod yn gwella. Tra’n cerdded heddiw, mi welais i gi tarw, dwy gath, a dyn oedd yn edrych yn debyg i Gordon Brown. Nid tynnu coes ydw i – roedd y pethau hyn wir yn fy ngwneud i’n hapusach.

Rydych chi’n cael siarad

Dydw i ddim yn gwybod amdanoch chi, ond fy hoff weithgaredd yn y byd yw sgwrsio. Rwy’n meddwl bod hynny’n wir am lawer o bobl.

Mae pobl yn dweud eu bod yn dwlu ar y dafarn, ond ydyn nhw mewn gwirionedd? Neu ydyn nhw’n dwlu ar dreulio amser gyda ffrindiau, a chael sgyrsiau?

Pan wnes i gyrafod â fy ngwraig am y tro cyntaf, nid i fwyty neu sinema fydden ni’n mynd amlaf, ond byddem yn cerdded yn ddiddiwedd. Archwilio gwarchodfeydd natur a theithiau cerdded glan môr ein tref brifysgol. Y prif beth yr oeddem ei eisiau oedd dod i adnabod ein gilydd, a hel clecs am ein cyd-ffrindiau (cydfyfyrwyr yn bennaf) a’n gelynion (darlithwyr yn bennaf).

Bron i ddau ddegawd yn ddiweddarach, rydyn ni’n dal i hel clecs ar deithiau cerdded. Rydym yn siarad yn gyffrous ac yn feirniadol am unrhyw un sydd wedi gwneud y peth lleiaf i’n cythruddo’n ddiweddar. Megis [blanc] sydd â barn anghywir am wleidyddiaeth, neu [blanc] sy’n dipyn o fwli, neu [blanc] sydd dal heb dalu fy anfoneb o fis Gorffennaf diwethaf.

Dyma bethau y gallem eu trafod mewn tafarn. Ond faint mwy o ryddhad pan fyddwn ni yn yr awyr agored, heb unrhyw ofn cael ein clywed? Ac mae’n llawer gwell rhefru wrth gerdded, felly mae gan yr egni a’r adrenalin rywle i fynd.

Mewn byd lle mae mwyafrif helaeth y gwasanaethau’n cael eu darparu gan fusnesau er elw, mae’n anoddach nag erioed dod o hyd i le da i dreulio amser gyda ffrindiau nad yw’n dafarn neu’n fwyty. Pan rydyn ni’n brin o arian parod, mae’n golygu ein bod ni’n cymdeithasu llai.

Dechreuais ganiatáu i mi fy hun wneud rhywbeth rhyfedd. Byddwn yn gofyn i hyd ffrindiau – hyd yn oed rhai newydd – i ddod am dro yn lle mynd am ddiod. Mae’n syndod faint o bobl sy’n neidio ar y cyfle.

Mae ffonau’n gwneud cerdded yn well

Bydd rhai selogion cerdded yn siarad am harddwch cysylltu â byd natur, a throi cefn ar y byd.

Rydw i yma i wneud y gwrthwyneb. Mae’ch ffôn yn rhoi mynediad i chi at ddau beth sy’n wych ar gyfer teithiau cerdded ar eich pen eich hun.

Yn gyntaf – podlediadau! Mae podlediadau’n ffantastic. Y sioeau radio nad ofynnodd neb iddynt eu gwneud. Mae’r ffaith bod gennyf ffôn yn fy mhoced yn golygu y gallaf, ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, ddewis dechrau gwrando ar unwaith ar lofruddiaeth ugain oed heb ei datrys yn cael ei hymchwilio gan berson di-waith o Ganada. Harddwch y byd modern!

Rwy’n gwybod bod gan lawer o bobl bodlediadau a sioeau radio yr hoffent eu clywed – “Ond ni allaf jyst eistedd a gwrando ar rywbeth.” Felly ewch am dro yn lle hynny. Mae cymudwyr yn gwybod gwerth llyfr da ar drên – mae podlediadau yn caniatáu’r un mynediad i adloniant i gerddwyr.

Yr ail wasanaeth rhagorol y mae eich ffôn yn ei ddarparu – galwadau ffôn! Braidd yn brin, y rhain. Efallai y bydd rhaid i chi ffeindio’r ap ar ei gyfer.

Nid yw’r rhan fwyaf o fy ffrindiau gorau yn byw yn fy ninas. Tybed a fyddwn i’n dal i fod mor agos â nhw heb fod wedi cadw at fy obsesiwn ers fy arddegau gyda galwadau ffôn.

Felly gwnewch hyn. Ffoniwch ffrind. Dywedwch wrthyn nhw bod gennych chi ychydig o amser i chi’ch hun, a’ch bod chi awydd sgwrs. Ewch am dro, i weld lle mae’r sgwrs yn mynd â chi.

Mae yna sgyrsiau rwy’n cofio pob manylyn ohonynt wrth fynd am dro penodol – mae darnau o sgwrsio yn dod yn ôl ataf wrth i fy llygaid gael eu hatgoffa o’r hyn a welsant wrth i mi siarad. Mae mor gyffredin i bobl deimlo’n fwyfwy ynysig wrth iddynt fynd yn hŷn, ac wrth i ofynion y byd go iawn eu hatal rhag teithio i ymweld â ffrindiau. A betia’i y byddai eich ffrindiau wrth eu bodd yn clywed gennych.

Mae cerdded yn aml yn well na chludiant

Rwy’n treulio mwy a mwy o amser yn Llundain ar gyfer gigs comedi, a phob tro rwy’n defnyddio eu system trenau tanddaearol, rwy’n casâu pob eiliad. Dyma sut mae pobl yn byw? Wedi eu gwasgu i mewn i diwbiau dystopaidd yn y tyllau mwyaf drewllyd, brwnt a feiddiodd erioed eu galw eu hunain yn waraidd?

Oni bai bod angen ystyried amser neu bellter, mae cerdded bron bob amser yn well na chludiant. Rydyn ni’n cael ein twyllo i feddwl nad yw hynny’n wir.

Fis diwethaf, prynais docyn bws dwy ffordd i deithio ac ymweld â ffrind. Ar ôl hynny, sylweddolais fod gennyf ddigon o amser i allu cerdded y 45 munud adref yn lle aros am fws. 

Teimlai hyn yn reddfol anghywir. Roedd yn teimlo fel gwastraff arian! Roeddwn i wedi prynu fy nhocyn yn barod – roeddwn i wedi talu am daith bws.

Ond – mae hynny’n anghywir. Byddai cerdded yn brafiach, ac roedd gen i amser i’w wneud. Ond dyna fi, yn meddwl bod rhaid i mi fynd ar y bws, neu byddai’r arian a wariwyd ar y tocyn yn cael ei wneud yn ffôl. Yr unig fantais i fynd ar y bws oedd osgoi’r teimlad o ffolineb am brynu tocyn dwyffordd.

Dysgu cerdded

Felly dyma beth i’w wneud.

Ni ddylai cerdded fod yn rhywbeth achlysurol sy’n dod i’r meddwl. Dylai fod yr opsiwn cyntaf i’w ystyried.

Ni allaf yrru, ond hyd yn oed pe bawn i, hoffwn feddwl y byddwn bob amser yn ystyried cerdded yn y lle cyntaf. Rwy’n sicr yn ei ystyried cyn trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi. Pan fyddaf yn dod oddi ar drên mewn tref neu ddinas newydd am gig, byddaf bob amser yn cerdded i’r lleoliad cyn belled ag y gallaf gyrraedd yno mewn tri chwarter awr. Mae gwasanaethau mapiau rhyngrwyd yn ei gwneud hi’n hawdd amcangyfrif hyd taith gerdded.

Gyda ffrindiau, byddaf yn awgrymu mynd am dro cyn ystyried tafarn. Os oes gen i rywfaint o amser cyn gig, byddaf yn ystyried mynd am dro cyn meddwl am yr hyn y gallaf ei wneud yn y lleoliad ei hun.

Nid wyf wedi sôn am ymarfer corff, oherwydd nid wyf erioed wedi poeni am hynny. Rwy’n cerdded oherwydd rwy’n ei hoffi. Oherwydd y gallaf ddefnyddio’r amser i sgwrsio gyda ffrind, yn bersonol neu ar y ffôn. Ac oherwydd efallai y byddaf yn gweld dyn sy’n edrych yn debyg i Gordon Brown.

Steffan Alun

Digrifwr standyp o Abertawe yw Steffan Alun. Mae i’w weld mewn gigs
ledled y DU, ac wedi perfformio pum rhediad llawn yng Ngŵyl Caeredin.
Mae'n wyneb cyfarwydd ar S4C, ac yn gyflwynydd achlysurol ar Radio
Cymru.