Wythnos o gerdded yng Nghymru

-

Tim Ryan sy’n hen gyfarwydd â cherdded pellter mawr yn defnyddio Slow Ways i gynllunio ei daith gerdded wythnos o hyd o Gaerdydd i Aberystwyth

O edrych ar y map cynnydd, mae’n amlwg bod angen i ni yng Nghymru fwrw ati. Mae yna rai esgusodion da. Un ohonynt yw’r ffaith bod llawer o’n llwybrau Slow Ways yn hir – mae ein haneddleoedd ymhell oddi wrth ei gilydd, a bydd yn cymryd mwy na diwrnod i fi gerdded llawer o’r llwybrau sydd yn fy rhwydwaith lleol i. Mae trafnidiaeth yn her arall – os yw llwybrau’n mynd ar draws mynyddoedd, gall fod yn anodd cyrraedd adref a gall bysiau fod yn brin, hyd yn oed rhwng trefi. Mae gennym y naill esgus ar ôl y llall!

Yn ffodus, rwy’n gwybod yn bendant y bydd 19 o lwybrau Slow Ways sy’n dilyn ei gilydd yng Nghymru yn ymddangos ar y map cynnydd cyn bo hir fel llwybrau sydd wedi’u hadolygu – a llawer ohonynt am y tro cyntaf – diolch i Tim Ryan sy’n hen gyfarwydd â cherdded pellter mawr. Llwyddodd Tim i ddatrys y broblem o ran trafnidiaeth drwy wersylla, ac mae’n aelod o’r Gymdeithas Cerddwyr Pellter Mawr ers amser, felly doedd y pellter ddim yn broblem chwaith. Nid yw llwybrau hir yn ei boeni o gwbl.

Dim (cweit) y Daith Cambria!

Fe wnes i gwrdd â Tim ar y prom yn Aberystwyth, ar ddiwedd ei wythnos o wyliau pwrpasol, ar ôl iddo fwynhau cerdded ar hyd llinell letraws i gyfeiriad y gogledd-orllewin o Gaerdydd. Nid cyd-ddigwyddiad mo’r ffaith bod y llwybr a ddilynodd Tim yn fy atgoffa o hanner deheuol Taith Cambria, sef y llwybr cerdded o’r de i’r gogledd sy’n enwog am fod yn heriol ac sy’n fwriadol yn cynnwys pob copa y mae’n dod ar eu traws. Yn ôl fy ffrindiau sydd wedi cerdded y llwybr, mae gweld y man uchaf yn y dirwedd ac anelu ato dro ar ôl tro yn anodd yn feddyliol yn ogystal ag yn gorfforol.

Waylist Tim – cawn weld yn byw yma

Yn ôl Tim, ei fwriad yn wreiddiol oedd dilyn Taith Cambria, ond newidiodd ei gynlluniau ar ôl iddo rwygo cyhyr ym mola ei goes. Roedd fersiwn Slow Ways o’r llwybr yn berffaith. Mewn gwirionedd, roedd yn her i’r gwrthwyneb, oherwydd mae Slow Ways yn osgoi’r copaon yn fwriadol ac yn rhoi blaenoriaeth i’r llwybrau mwyaf uniongyrchol rhwng trefi.

“Rydw i wedi dringo Pen y Fan droeon, felly wnes i ddim gweld eisiau’r golygfeydd. Mae cerdded llwybrau Slow Ways yn flaenoriaeth wahanol – mae’r boddhad yn deillio o adolygu’r llwybr ar gyfer y person nesaf ac ystyried y llwybr fel hynny.”

“Roedd y diwrnod cyntaf allan o Gaerdydd yn llwybr pum seren, heb os. Cefais fy synnu – roedd y llwybr cyfan ar y ffyrdd – ond roedd ganddynt balmentydd ac roedd cerdded arnynt yn wirioneddol braf.”

Cerddodd Tim ar hyd pedwar o lwybrau Slow Ways ar y diwrnod cyntaf a phump ar yr ail ddiwrnod, ond erbyn iddo gyrraedd canol Mynyddoedd Cambria roedd angen dau ddiwrnod arno i gerdded llwybr gwych 34 cilomedr/21 milltir o hyd Trerha. Fferm yn unig oedd un o’r nodau anghysbell (term Slow Ways ar gyfer aneddle).

Beth bynnag, meddai, roedd fersiwn Slow Ways o Daith Cambria ymhell o fod yn hawdd. “Wrth groesi’r Mynyddoedd Duon, fe feddyliais i bod yn rhaid i fi ganolbwyntio o ddifri’! Roeddwn i’n gallu gweld popeth o’m cwmpas yn glir, roeddwn i’n defnyddio map a chwmpawd i ddod o hyd i’r ffordd – roedd yn nodweddiadol o amgylchedd lle mae arweinwyr mynydd yn ennill eu cymwysterau. Sylwi ar bob carreg frig, gwybod ble’n union roeddwn i bob amser; roedd yn wirioneddol anodd. Bydd yn rhaid i fi ddweud yn yr adolygiad na ddylai neb gerdded y llwybr heb fap a chwmpawd.”

Mae hygyrchedd yn rhywbeth cymharol, meddai – rhaid i unrhyw lwybr fod yn “hygyrch o fewn eich gallu chi, ac mae’n bosibl bod lefel eich gallu’n golygu na allwch ddarllen map neu nad ydych yn hoffi cerdded ar ffyrdd, er enghraifft – mae’n fwy na bod yn hygyrch i gadair olwyn. Nid fi sydd i ddweud beth y gall neu beth na all rhywun ei wneud; fy ngwaith i yw bod yn onest am yr hyn y bydd rhywun yn dod ar ei draws. Byddaf yn nodi bod yna gamfeydd, neu dwmpathau o laswellt, neu beth bynnag, ac yna’n gadael i bobl benderfynu drostynt eu hunain.”

Mae’n amlwg bod Tim yn hoff iawn o fynd i archwilio llwybrau cyn i eraill fynd ati i’w cerdded. Yn ogystal ag adolygu llwybrau ar gyfer Slow Ways, mae hefyd yn treialu teithiau cerdded cymdeithasol ar gyfer y Gymdeithas Cerddwyr Pellter Mawr a’r Ramblers, ac mae gofynion pob un o’r tri yn wahanol. “Rhaid i chi ystyried cymhwysedd y bobl a fydd yn eich dilyn. Ar gyfer y teithiau cerdded cymdeithasol, mae angen i fi ddod o hyd i rywle â golygfa ac ati, lle mae modd cael cinio, ac mae’n gas gen i fynd â grwpiau ar y ffyrdd. Weithiau mae’n rhaid i fi gynnwys dolen fawr er mwyn osgoi gorfod gwneud hynny, ond does dim gwahaniaeth oherwydd dim ond mynd allan am dro y maen nhw. Mae Slow Ways yn hollol wahanol.

“Yr ail ddiwrnod oedd waethaf – roedd y llwybr wedi’i gau mewn cymaint o fannau! O ran y tir agored rhwng y Cymoedd – bues i’n cerdded o 7am tan 5pm, ac yn aml roedd yn rhaid i fi ddringo dros ben ffensys mewn mannau lle’r oeddwn yn gwybod na ddylai fod angen i fi wneud hynny. Doedd gen i ddim amser i fynd yn ôl i chwilio am opsiynau amgen hollol newydd, felly bydd yn rhaid i fi rannu fy mhrofiad a gadael i’r person nesaf ei addasu. Roedd yn rhaid i fi feddwl, beth yw’r flaenoriaeth i fi fan hyn? Ac roeddwn i wedi cadw lle mewn mannau gwersylla, felly roedd yn rhaid i fi gadw i fynd. Roedd yn wythnos o wyliau!”

Gofynnais i Tim pam yr oedd yn awyddus i adolygu llwybrau Slow Ways. “Mae’n beth da. Ac mae brwdfrydedd a momentwm yn perthyn i’r prosiect, diolch i Dan.” Arhosodd Tim i feddwl am eiliad. “Hefyd, os meddyliwch chi am y peth, dylai llwybrau’r Frenhines ar gyfer cerddwyr gael yr un flaenoriaeth â’r llwybrau ar gyfer gyrwyr. Mae’r llwybrau cerdded yn endid cyfreithiol. Fel cerddwr, ni ddylech fod yn ceisio osgoi cael eich gweld gan rywun yn y ffermdy – fe ddylai rhywun eich gweld o’r ffermdy! Allwch chi ddychmygu rhywun yn cau ffordd y mae gyrwyr yn ei defnyddio?”

Dylai llwybrau’r Frenhines ar gyfer cerddwyr gael yr un flaenoriaeth â’r llwybrau ar gyfer gyrwyr. Mae’r llwybrau cerdded yn endid cyfreithiol. Allwch chi ddychmygu rhywun yn cau ffordd y mae gyrwyr yn ei defnyddio?”

“Wedi dweud hynny, os bydd rhywun o’r ffermdy yn fy ngweld byddaf yn aml yn cael fy ngwahodd i mewn am goffi. Bydd y gŵr dan sylw’n siarad yn ddi-stop yn aml, a byddaf yn meddwl – d’ych chi ddim wedi gweld neb i siarad â nhw ers wythnosau!” Rwy’n awgrymu wrth Tim bod dyletswydd gymdeithasol efallai’n gysylltiedig â cherdded ar draws y wlad – rhyw fath o ymgyrch atal unigrwydd – ac mae’n cytuno. “Ac roeddwn i wrth gwrs yn ddiolchgar am y croeso, a’u diddordeb yn fy nhaith!”

Diwrnod saith, Llanymddyfri i Ty’n Cornel

Rwy’n tynnu rhai lluniau o Tim ar y prom yn Aberystwyth, wedi iddo groesi’r llinell derfyn, cyn iddo ymadael i ddal y cyntaf o sawl bws a thrên er mwyn mynd adref i Tiverton yn Nyfnaint. Mae’n sôn, wrth basio, mai yno y gwnaeth ddylunio pob rhan o’r rhwydwaith yn Tiverton. Felly, os byddwch fyth yn yr ardal honno, gallwch fod yn ffyddiog y bydd unrhyw lwybr y byddwch yn ei ddilyn wedi’i archwilio gan arbenigwr. Os na fyddwch yn yr ardal honno, bydd pob rhan o’r llwybr rhwng Caerdydd ac Aberystwyth wedi’u hadolygu yn fuan a bydd y llwybr yn barod am ei ail gerddwr.

Tair hoff llwybrau Tim

  1. Ystradfellte to Llandeusant, Llayst one, oherwydd harddwch y mynyddoedd a’r ymdeimlad eich bod chi’n wirioneddol yn y gwyllt. Mae’n eithaf heriol ond cewch eich gwobrwyo wrth i chi fynd dros y Mynydd Du. Roedd y llwybrau gwledig a’r lonydd tawel cefn gwlad i Landdeusant yn hyfryd hefyd
  2. Nanabe three o Abercynafon i Nant Ddu. Llwybr hardd heibio i raeadrau godidog, llwybr dymunol wedyn drwy goedwig uwchlaw Cronfa Pentwyn, ac yna llwybr braf ar draws rhostir a llwybrau drwy’r coed i Nant Ddu
  3. Y llwybr hir ond gwerth chweil o Randir-mwyn i Dregaron, Trerha. Byddwn yn bendant yn hoffi dychwelyd at y llwybr hwn a threulio mwy o amser arno. Roedd dringo’r cwm i’r hostel anghysbell yn Nhy’n y Cornel yn bleser pur
Diwrnod chwech, rhwng Llanymddyfri a Ty’n Cornel
Tim ar y llinell derfyn yn Aberystwyth
  • Ewch ati i greu eich rhestr ‘waylist’ eich hun o lwybrau cysylltu yma – dyma’r lle i fod yn uchelgeisiol!
  • Gallwch weld llwybr Tim yma, a’i adolygiadau o bob llwybr
  • Dilynwch Tim ar Twitter yma er mwyn gweld beth y bydd yn ei wneud nesaf
Hannah Engelkamphttp://www.seasidedonkey.co.uk
Hannah is a writer and editor whose great love is slow, resourceful, human-powered home travel. She once walked around Wales with a handsome and opinionated donkey called Chico, and now has two children who also make going for a good walk really hard. She is the Culture, Imagination and Story Lead for Slow Ways. // Mae Hannah yn awdur ac yn olygydd a'i chariad mawr yw teithio araf, dyfeisgar, ar ei liwt ei hun, heb injan. Cherddodd 1000 o filltiroedd o amgylch Cymru, asyn golygus a phengaled o’r enw Chico, ac erbyn hyn mae ganddi ddau o blant sydd hefyd yn ei gwneud hi'n anodd iawn mynd am dro. Hi yw Arweinydd Diwylliant, Dychymyg a Stori ar gyfer Slow Ways.