Join the next Slow Ways National Swarm / Ymunwch â’n Penwythnos Prysur Cenedlaethol

-

How far can we walk in a weekend? Join the second swarm and find out! / Pa mor bell y gallwn ni gerdded mewn un penwythnos? Cerddwch yn ystod ein Penwythnos Prysur i gael gwybod!

Our national #SlowWays swarm has started – Keep track of our collective progress here!

We would love for you to get involved in our next National Slow Ways Swarm weekend, taking place on the 27-29 May, 2022. On your own or in a group, long routes or short routes, urban or rural: add your walk(s) to the collective total and be part of the buzz as we tick off as many as we can! There will be a special get-together in central Cardiff on Saturday 28th May to celebrate.

On Ellbri, between Elland and Brighouse, West Yorkshire, by Jane Taylor /
Ar Ellbri rhwng Elland a Brighouse, Gorllewin Swydd Gaerefrog, gan Jane Taylor

Swarms really work!

Over one weekend in March we invited people from across Great Britain to walk and review as many Slow Ways walking routes as possible in a single weekend as part of our pilot swarm. See some of the swarm stories here.

From Bradford to Brighton, Aberystwyth to Alnwick, people undertook exciting Slow Ways journeys alone, with friends, or in groups. Along the way new connections were made, areas discovered, and pathways traversed. The swarm was a big success!

Over the weekend, we collectively walked 1500 miles – covering 233 routes. Of those, 33 routes gained their third positive review, which meant they became verified. Over 50 per cent of the routes on our network have now been reviewed, which is fantastic – but we still have a way to go!

Black Brook, between Ripponden and Elland, West Yorkshire, on Ripell Slow Way, by Jane Taylor / Black Brook, rhwng Ripponden ac Elland, Gorllewin Swydd Gaerefrog, gan Jane Taylor

How do we get involved?

On your own or as a group you could:

  • walk a single Slow Way to a neighbouring town
  • walk as many routes as you can over the weekend
  • walk to a distant place by combining multiple routes
  • be a pioneer: If you are looking for inspiration on which Slow Ways to walk, it would be useful to look at routes which haven’t been reviewed yet. Filling some of those gaps will really connect up the network nationally. Pioneering a route that has not been walked before will give people who follow in your footsteps more confidence to try the route too.
  • go snail bagging: Bagging a snail means being the person to award a route its fully verified status, by giving it its third positive review. You can help to fully verify routes and ‘bag snails’ on your own or as part of a group – each person’s review counts.

The easiest routes are short 5km urban walks. The most challenging are over 40km and go through remote and rugged terrain. The average Slow Ways route is about 15km and will connect places with public transport.

Many of the Slow Ways routes are untested and some may even be dangerous. It’s really important that you only walk routes that are within your experience. You will be entirely responsible for your own happiness and safety.

If that’s fine with you, we’d love to have your help with this pilot swarm. Simply sign-up below.

Between Coulsdon and Brixton, by Michael Schiller / Rhwng Coulsdon a Brixton

Taking part is as easy as going for a walk

To take part simply follow these three steps:

1. Choose a Slow Ways route: Taking part on your own or in a group, this map will help you to target your efforts.

2. Walk it: Walk the route on your own or in a group.

3. Review it: Make sure you share a review so that we know you’ve completed the walk!

We’ll be added a totaliser to our homepage so that we can see our collective achievements over the weekend.

We want to inspire lots more people to contribute to Slow Ways

Spread the word: Are you on social media? If so, please help to spread the word about what you are doing using the hashtag #SlowWays. We are @SlowWaysUK on Twitter, Instagram and Facebook.

On Wobwob (Woburn to Woburn Sands, Bucks), by Andrew Mackay / Ar Wobwob, Sir Bwcingham, gan Andrew Mackay

Slow Ways so far

Slow Ways is a grassroots initiative to create a national network of walking routes. The routes connect all of Great Britain’s towns and cities, making it easier for people to imagine, plan and enjoy walking and wheeling journeys between places.

So far 8,000 walking routes have been suggested by volunteers. Our current challenge is to check them all – that’s 120,000km of routes! It’s a big challenge, but totally doable with enough people.

You can walk and review any time, but the swarm will be a big push with energy and fanfare, and a post-walk get-together.

Slow Ways is supported by the National Lottery Community Fund.


Byddem wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan ym Mhenwythnos Prysur Cenedlaethol nesaf Slow Ways rhwng 27 a 29 Mai 2022. P’un a fyddwch yn cerdded ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, ar hyd llwybrau hir neu lwybrau byr, mewn ardal drefol neu allan yn y wlad: cofiwch ychwanegu eich taith/teithiau at ein cyfanswm cyffredinol er mwyn bod yn rhan o’r cyffro wrth i ni gerdded cymaint ag sy’n bosibl o lwybrau! Bydd yna gyfle arbennig i ddod ynghyd yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn 28 Mai i ddathlu.

Mae Penwythnosau Prysur wir yn gweithio!

Yn ystod un penwythnos ym mis Mawrth, gwnaethom wahodd pobl o bob cwr o Brydain i gerdded ac adolygu cymaint ag sy’n bosibl o lwybrau Slow Ways mewn un penwythnos, yn rhan o’n Penwythnos Prysur peilot. Mae rhai o straeon y Penwythnos Prysur i’w gweld yma.

O Bradford i Brighton ac o Aberystwyth i Alnwick, aeth pobl ati i gerdded llwybrau Slow Ways ar eu pen eu hunain, gyda ffrindiau neu mewn grwpiau. Ar y ffordd cafodd cysylltiadau newydd eu creu, cafodd ardaloedd newydd eu darganfod a chafodd llwybrau newydd eu troedio. Roedd y Penwythnos Prysur yn llwyddiant mawr!

Rhwng Coulsdon a Brixton yn Llundain / Between Coulsdon and Brixton, London, by Michael Schiller

Gyda’n gilydd dros y penwythnos, gwnaethom gerdded 1500 o filltiroedd ar hyd 233 o wahanol lwybrau. Cafodd 33 o’r llwybrau hynny eu trydydd adolygiad cadarnhaol, a oedd yn golygu wedyn eu bod wedi’u dilysu. Erbyn hyn, mae dros 50 y cant o lwybrau ein rhwydwaith wedi cael eu hadolygu, sy’n wych o beth – ond mae gennym ffordd bell i fynd!

Sut mae cymryd rhan?

Ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, gallech:

  • gerdded un o lwybrau Slow Ways i dref gyfagos
  • cerdded cymaint o lwybrau ag y gallwch dros y penwythnos
  • cerdded i le pell i ffwrdd drwy gyfuno sawl llwybr â’i gilydd
  • arwain y ffordd: Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth ynglŷn â pha un o lwybrau Slow Ways i’w gerdded, byddai’n ddefnyddiol ystyried llwybrau sydd heb eu hadolygu eto. Bydd llenwi rhai o’r bylchau yn cyfrannu at gryfhau’r rhwydwaith yn genedlaethol. Bydd cerdded llwybr nad oes neb wedi’i gerdded o’r blaen yn rhoi i’r bobl a fydd yn eich dilyn fwy o hyder i geisio cerdded y llwybr hwnnw hefyd.
  • casglu malwod: Byddwch yn casglu malwen os chi fydd y person a fydd yn rhoi i lwybr ei drydydd adolygiad cadarnhaol, a fydd yn golygu felly ei fod wedi’i ddilysu yn llawn. Gallwch helpu i ddilysu llwybrau’n llawn a ‘chasglu malwod’ ar eich pen eich hun neu mewn grŵp – mae adolygiad pob person yn cyfrif.

Llwybrau trefol 5 cilomedr o hyd yw’r llwybrau hawsaf. Mae’r llwybrau mwyaf heriol yn 40 cilomedr a mwy o hyd ac yn mynd drwy ardaloedd anghysbell o dir garw. Ar gyfartaledd, mae llwybrau Slow Ways yn oddeutu 15 cilomedr o hyd ac maent yn cysylltu mannau lle mae yna drafnidiaeth gyhoeddus â’i gilydd.

Littleborough i Ripponden, neu Litrip, gan Jane-Taylor / Littleborough to Ripponden, or Litrip, by Jane-Taylor

Mae llawer o lwybrau Slow Ways yn llwybrau nad oes neb wedi’u cerdded, a gallai rhai ohonynt fod yn beryglus hyd yn oed. Mae’n wirioneddol bwysig mai’r unig lwybrau y byddwch yn eu cerdded yw’r llwybrau sy’n cyd-fynd â’ch profiad. Chi’n unig sy’n gyfrifol am eich diogelwch a’ch hapusrwydd.

Byddem wrth ein bodd pe bai modd i chi ein helpu gyda’r Penwythnos Prysur peilot hwn, os ydych yn fodlon. Gallwch gofrestru isod.

Mae cymryd rhan mor hawdd â mynd am dro

I gymryd rhan, dilynwch y tri cham hyn:

1. Dewiswch un o lwybrau Slow Ways: P’un a fyddwch yn cymryd rhan ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, bydd y map hwn yn eich helpu i sianelu eich ymdrechion.

2. Cerddwch y llwybr: Cerddwch y llwybr ar eich pen eich hun neu mewn grŵp.

3. Adolygwch y llwybr: Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu adolygiad fel ein bod yn gwybod eich bod wedi cerdded y llwybr!

Byddwn yn rhoi adnodd cyfrifo cyfanswm ar ein hafan er mwyn i ni allu gweld beth y byddwn wedi’i gyflawni gyda’n gilydd dros y penwythnos.

Rydym am ysbrydoli llawer yn rhagor o bobl i gyfrannu i Slow Ways

Rhannwch y neges: Ydych chi ar gyfryngau cymdeithasol? Os felly, helpwch ni i rannu’r neges am yr hyn rydych yn ei wneud, gan ddefnyddio’r hashnod #SlowWays. Ein dolen ar Twitter, Instagram a Facebook yw @SlowWaysUK.

Slow Ways hyd yn hyn

Menter ar lawr gwlad yw Slow Ways i greu rhwydwaith cenedlaethol o lwybrau cerdded. Mae’r llwybrau yn cysylltu pob un o drefi a dinasoedd Prydain â’i gilydd, sy’n ei gwneud yn haws i bobl ddychmygu, cynllunio a mwynhau mynd o le i le ar droed ac ar olwynion.

Mor belled, mae 8,000 o lwybrau cerdded wedi’u hawgrymu gan wirfoddolwyr. Yr her i ni ar hyn o bryd yw eu harchwilio i gyd – 120,000 cilomedr o lwybrau! Mae’n her enfawr ond yn un y mae modd ei chyflawni â digon o bobl.

Gallwch gerdded ac adolygu unrhyw bryd, ond bydd y Penwythnos Prysur yn ymgyrch amlwg, a fydd yn llawn egni a bwrlwm, a bydd yna gyfle i ni gwrdd â’n gilydd ar ôl cerdded.

Chard i Crewkerne (Chacre dau) yng Ngwlad yr Haf. Taith gerdded pum seren ym marn Helen Gough / Chard to Crewkerne (Chacre two) in Somerset. A five-star walk in Helen Gough’s opinion

Caiff menter Slow Ways ei chefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.


Sign up

Please register your interest by filling in the form below, so we can keep you updated on the swarm.

If you signed up for the first swarm there is no need to sign up again.

Feel free to skip any sections you don’t know the answer to yet.

Cofrestrwch

Cofrestrwch eich diddordeb trwy’r ffurflen isod, er mwyn i ni anfon y wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Os gwnaethoch gofrestru ar gyfer y Pythefnos Prysur gyntaf nid oes angen cofrestru eto.

Mae croeso i chi adael unrhyw adrannau nad ydych chi’n gwybod yr ateb iddynt eto.

* indicates required / yn ofynnol

Are you registering as an individual or a group? / Ydych chi’n cofrestru fel unigolyn neu grŵp?

Your provisional plans / Eich cynlluniau hyd yn hyn

Terms / Termau*

Contacting you / Yn cysylltu â chi

You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails. For information about our privacy practices, please visit our website. / Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein he-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i’n gwefan.

We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. / Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i’w phrosesu. Learn more about Mailchimp’s privacy practices here. / Dysgwch fwy am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Slow Ways
Slow Ways is an initiative to create a national network of walking routes connecting all of Great Britain’s towns and cities as well as thousands of villages. It’s designed to make it easier for people to imagine, plan and go on walking journeys, walking further and for more purposes.

Recent comments

Christoph and Sarah Harwood on Help Zoë and Falco mule-proof their route